Neidio i'r cynnwys

Sbaengi Hela Cymreig

Oddi ar Wicipedia
Sbaengi Hela Cymreig
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sbaengi Hela Cymreig

Sbaengi sy'n frodorol o Gymru yw'r Sbaengi hela Cymreig, sydd fel yr awgryma'r enw yn perthyn i deulu'r Sbaengwn (neu'r 'sbaniel'). Yr un tarddiad sydd i'r gair a'r Saesneg Spaniel, sef y wlad Sbaen, a'r hen enw oedd ysbaengwn neu adargi neu gi adar. Mae'n frid hynafol a ddatblygwyd i ddal adar ond a ddaeth ymhen hir a hwyr yn gi defnyddiol i'r helwr ac erbyn hyn yn gi anwes deniadol.

Mae'n hen frîd i leoli a chodi'r gêm (neu'r adar a heliwyd) a chario'n ôl aderyn a saethwyd. Amrywiad oedd y cocker Cymreig (Welsh cocker), ond heb ei gydnabod yn frîd ar wahân. Roedd setiwr Llanidloes (Llanidloes setter) â'i gôt wen gyrliog yn amrywiad lleol yn y 19g.

Un lliw sydd i'r brid ond ceir amrywiaeth bychan yn y marciau gwyn a choch. Maent yn gŵn triw a theyrngar i'r perchennog, er eu bod yn dioddef o broblemau gyda'r llygaid a'r clun, yn fwy na'r ci cyffredin. Ci gwaith ydyw wrth reddf, a fridiwyd ar gyfer hela. Maent yn llai cyffredin na Sbaengi Adara Seisnig - (Cocker Spaniel), ac mae'n hawdd cymysgu'r ddau o bell.

Sbaengi Cymreig (chwith) a Sbaengi Adara Seisnig (Cocker Spaniel); argraffwyd yn 1859.

Mae bron yn amhosibl dyddio cychwyn y brid hwn, ond ceir llawer o hen luniau o gŵn tebyg.[1] Sonia John Caius yn 1570 am sbanieli Cymru, o liw gwyn a marciau coch fel arfer arnynt.[2] Mae'n ddigon posib iddynt ddod o Ewrop, o'r grŵp Land Spaniels, gan gadw'n eith agos at y math gwreiddiol dros y canrifoedd.[3]

Ceir y cofnod cyntaf o'r Sbaengi Hela Cymreig yn Nhlysau yr Hen Oesoedd gan Lewis Morris, a hynny yn 1735:

"...ryw ŵr ieuangc ... ar Glamp o Geffyl ... a llu o filgwn, Bytheiadcwn, Costowcwn, Ysbaengwn, Corgwn, a mân ddrewgwn eraill ar ei ôl."

Cyn yr 20g roedd gan rai mathau o Sbaengi Adara Seisnig hefyd arlliw o goch a gwyn ar eu blew.[4]

Ychydig o sylw a gafodd y Sbaengi Hela Cymreig cyn diwedd y 1890au, pan enillodd nifer ohonynt brif wobrau mewn sioeau cŵn. Daethant i lygad y cyhoedd am y tro cyntaf pan gawsant eu cydnabod gan y Clwb Cennel yn 1902 a bathwyd y gair Saesneg Welsh Springer Spaniel. Un o'r bobl a oedd yn bennaf gyfrifol am ddod a'r ci hwn i boblogrwydd oedd A. T. Williams o "Ynys-y-Gerwn"[5] yn y 19eg ganrif pan enillodd yn nhreialon y Clwb Sbaengwn Hela ('Sporting Spaniel Club) a gynhaliwyd ar ei dir yn 1900 a throeon o'r bron yn dilyn hynny - mewn gwahanol rannau o wledydd Prydain.[3] Ei becampwr o gi, 'Corryn', oedd y Sbaengi Hela Cymreig cyntaf i gael tynnu ei lun gyda chamera, hyd y gwyddys.[6]

Un o gŵn A.T. Williams, sef 'Corryn', mewn dau safle gwahanol, a dynnwyd yn 1903.

Yn niwedd y 19eg ganrif cludwyd y Sbaengi Cymreig i America ble derbyniwyd ef yn llawen gan Glwb Cennel America yn 1906.[7]

Fodd bynnag, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf sylweddolwyd nad oedd yr un ci pedigri i'w gael drwy America benbaladr. Ailgychwynwyd cofrestru'r cŵn gan eu bridio i'r hyn a welir heddiw.[8] Sefydlwyd Clwb y Sbaengi Hela Cymreig yn 1923 a gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cŵn pedigri, ond yn ystod yr Ail Ryfel Byd difawyd y cofnodion cofrestru pan disgynodd fom ar y swyddfa lle roeddent yn cael eu cadw.[6] Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, credwyd hefyd nad oedd yr un ci pedigri ar ôl yn Unol Daleithiau America, ac ailgyflwynwyd cŵn newydd i'r wlad.[7][9] Cyflwynwyd y ci am y tro cyntaf i Awstralia yn 1973.[10]

Heddiw

[golygu | golygu cod]

Yn 2000 roedd 424 o gŵn ar gofrestr y Clwb Cennel, 420 yn 2004. Yn Unol Daleithiau America roedd 599 yn 2004.[11][12][12]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Johns, Catherine (15 December 2008). Dogs: History, Myth, Art. Harvard University Press. t. 155. ISBN 978-0-674-03093-0. Cyrchwyd 25 February 2010.
  2. Cyfieithwyd o: "Spaniels whose skynnes are white and if marked with any spottes they are commonly red"
  3. 3.0 3.1 Smith, A.C. (6 October 2008). Gun Dogs - Their Training, Working and Management. Brewster Press. tt. 111–112. ISBN 978-1-4437-1920-9. Cyrchwyd 25 February 2010.
  4. Drury, W.D. (1903). "The Welsh Springer". British Dogs, Their Points, Selection, And Show Preparation. Charles Scribner's Sons. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
  5. archiveswales.org.uk; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 18 Rhagfyr 2015
  6. 6.0 6.1 Phillips, John (4 January 2002). "A Short History of the Welsh Springer Spaniel". The Welsh Springer Spaniel Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-28. Cyrchwyd 25 Chwefror 2010.
  7. 7.0 7.1 "Welsh Springer Spaniel History". American Kennel Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-17. Cyrchwyd 26 Chwefror 2010.
  8. "Breed History". Welsh Springer Spaniel Club of South Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-03. Cyrchwyd 16 Chwefror 2010.
  9. "Welsh Springer Spaniel Information". Sarah's Dogs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-03-09. Cyrchwyd 18 Chwefror 2010.
  10. Burke, Don (2005). The complete Burke's backyard: the ultimate book of fact sheets. Murdoch Books. t. 877. ISBN 978-1-74045-739-2. Cyrchwyd 2010-02-18.
  11. "The Welsh Springer Spaniel - an Introduction". The Welsh Springer Spaniel Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-03. Cyrchwyd 15 Chwefror 2010.
  12. 12.0 12.1 "Welsh Springer Spaniel Popularity". The Welsh Springer Spaniel Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-18. Cyrchwyd 15 Chwefror 2010.