Cynan
Gwedd
Enw dyn yw Cynan yn Gymraeg, sy'n cyfateb i Conan neu Konan yn Llydaweg. Yr enwocaf, efallai, yw'r bardd Albert Evans-Jones (Cynan), ond gall yr enw gyfeirio at sawl person:
Cymru
[golygu | golygu cod]- Cynan - cymeriad y cyfeirir ato yn y brudiau fel gwaredwr.
- Cynan Garwyn (6g) - brenin Powys
- Cynan Meiriadog - yn ôl traddodiad, un o sefydlwyr Llydaw
- Cynan ap Iago, tad Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd
- Cynan ab Owain Gwynedd, un o feibion Owain Gwynedd, brenin Gwynedd
- Albert Evans-Jones (20g) - y llenor sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol 'Cynan'
Llydaw
[golygu | golygu cod]Konan yw'r ffurf ar yr enw yn Llydaweg Canol (hefyd Conan). Mae'n enw sant, yn enw teulu ac yn enw lle.
Sant
[golygu | golygu cod]Roedd Konan yn ddisgybl i Sant Cadfan ac yn frawd i Sant Cynfelyn.
Dugiaid Llydaw
[golygu | golygu cod]- Konan I, dug Llydaw o 990 hyd 992
- Konan II, dug Llydaw o 1040 hyd 1066
- Konan III, dug Llydaw o 1096 hyd 1148
- Konan IV, dug Llydaw o 1148 hyd 1166
Enw teulu
[golygu | golygu cod]Enw teulu cyffredin ydy Conan yng ngorllewin Llydaw. Er enghraifft:
- Yann Gonan, awdur o'r 19eg ganrif
- Jakez Konan, awdur o Perroz-Gireg, o'r 20g
Enw lle
[golygu | golygu cod]- Sant-Konan, pentref yn ardal Gwengamp
- Kergonan, enw sawl lle yn Llydaw
Hefyd
[golygu | golygu cod]- Arthur Conan Doyle, awdur y llyfrau Sherlock Holmes
- Conan the Barbarian, neu Conan the Cimmerian yn straeon yr Americanwr Robert E. Howard a gyhoeddwyd yn Weird Tales yn 1937, ac yn ffilm wedyn.