Neidio i'r cynnwys

Moleciwl

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Moleciwl a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 12:11, 29 Awst 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Strwythr a dimensiynau moleciwl H2O (Dŵr)

Mewn Cemeg, moleciwl yw agregiad o ddau neu fwy o atomau mewn trefn pendant sydd wedi'u bondio'n gemegol. Nid yw sylweddau cemegol yn rhannu'n anfeidrol i mewn i ffracsiynau llai: mae moleciwl yn gyffredinol yn cael ei ysyried fel y gronyn lleiaf o sylwedd pur sy'n cadw ei gyfansoddiad a'i briodweddau cemegol.

Mewn gwyddoniaeth moleciwlaidd, ystyrir moleciwl fel endid digon sefydlog a niwtral sydd wedi ei gyfansoddi o ddau neu fwy o atomau. Defnyddir y cysyniad o foleciwl monatomig (un atom), fel y gwelir mewn nwyon nobl, bron yn gyfyngol yn theori cinetig nwyon, lle enwir gronynnau sylfaenol yn gonfensiynol yn "foleciwlau", er gwaethaf eu cyfansoddiad.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Chwiliwch am moleciwl
yn Wiciadur.